Originally posted by MemberD:
Latest news is that 'afon' is just Welsh for river so Manafon is another way of saying River Man?
Possibly a Welsh language re-purposing album?
I make you right Membs You cunning linguist !! It says so here
Daffyd Sylvian (ex Siapan) discu newywdd siarad cymraeg yn Manafon "Buchedd yn Tokio (Remics) Pentref a phlwyf gwledig yng ngogledd Powys (yn yr hen Sir Drefaldwyn) yw Manafon. Fe'i lleolir 2 filltir a hanner i'r de o bentref Llanfair Caereinion ac 8 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng ar lôn y B4390.
Saif Manafon ar lannau Afon Rhiw mewn ardal o fryniau isel coediog a ffermydd. Mae'n rhan o esgobaeth Llanelwy. Mae'r eglwys yn bur hynafol.
Bu'r bardd a golygydd Gwallter Mechain (Walter Davies) yn ficer Manafon am gyfnod o 30 mlynedd, o 1807 hyd 1837, a chynhyrchodd rhan helaeth o'i waith llenyddol yno. Bu Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yma ynghanol y 18fed ganrif.
Treuliodd y bardd enwog R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor Manafon (1942-1954). Cafodd yr ardal ddylanwad dwfn arno. Yno yr aeth ati i ddysgu'r Gymraeg ac mae rhai o'i gerddi mwyaf adnabyddus, sy'n ymwneud â chymdeithas amaethyddol y fro, natur, a hanes Cymru yn deillio o'r amser hwnnw. Ceir pennod ddifyr ar ei brofiadau yn y fro yn ei hunangofiant Neb. Dyma un o'i ddisgrifiadau bachog o Fanafon o'r gyfrol honno, a ysgrifennir yn y trydydd berson:
'O'r braidd fod Manafon yn bod. Doedd yno ddim pentref, dim ond eglwys, ysgol, tafarn a siop. Gwasgarwyd y ffermydd hyd y llethrau yn fân-ddaliadau ar y cyfan gydag ambell fferm mwy sylweddol. Saes-Gymry oedd y bobl, gydag enwau Cymraeg ac acen Sir Amwythig. Daethant yn destun ei farddoniaeth.' (Neb, tud. 42)2009